
Ers 2003, mae tyrbin llif llanw arbrofol 300kW Seaflow ar waith oddi ar y glannau yn Lynmouth - sef record byd. Does yr un math arall o ynni morol adnewyddadwy wedi gweithio oddi ar y glannau am gyfnod mor hir o'r blaen.
Mae prif swyddfa Marine Current Turbines ym Mryste wedi bod yn monitro'r tyrbin, sydd wedi bod yn gweithio'n ddibynadwy ac yn awtomatig. Mae tyrbin Seaflow wedi casglu data pwysig a fydd yn helpu i ddylunio'r prototeip masnachol 1MW, Seagen, a fydd yn ei olynu.
Project Seaflow: Ffoto drwy garedigrwydd Marine Current Turbines Ltd
Dyfais alltraeth sy'n gorwedd yn llwyr o dan y môr yw'r Stingray. Mae iddi aden danddwr sydd wedi'i chysylltu â system o liferi sy'n gweithio pwmp. Mae ongl yr aden yn cael ei newid gan ddyfais syml a bydd llif y llanw'n pasio dros yr aden wrth iddi symud i fyny ac i lawr, gan weithio'r pwmp i gynhyrchu olew o dan wasgedd mawr. Mae'r olew'n cael ei ddefnyddio wedyn i yrru generadur hydrolig. Prototeip yw'r Stingray o hyd ond pan fydd wedi'i ddatblygu'n llawn fe fydd yn gweithio mewn ffermydd o lawer o ddyfeisiau o'r fath ar fannau addas ar wely'r cefnfor.
Gallwch weld pwer y llanw o amgylch y Deyrnas Unedig yma:
www.britishwindenergy.co.uk (Cliciwch ar y map o bwer y llanw mawr.) Mae'r map yma'n dangos ynni'r llanw mawr yn nyfroedd y Deyrnas Unedig mewn kW/m. Oddi ar bentiroedd y mae'r llanw ar ei gryfaf - edrychwch ar y ffigurau ar gyfer sianeli cul. Ond mae yna lanw cryf hefyd mewn dyfroedd bas - oddi ar East Anglia ac yn y Sianel.
Y llanw mawr yw'r enw ar y llanw uchaf a chryfaf, ac mae'n digwydd unwaith y mis, o dan ddylanwad cylchdro'r lleuad o amgylch y Ddaear. Y llanw isel, neu'r llanw bach, sy'n groes i'r llanw mawr, a dyna pryd y bydd ynni'r llanw ar ei wannaf.
www.bwea.com/marine (Sgroliwch i lawr i gael gwybodaeth am Stingray)
Bydd Canolfan Ynni Newydd ac Adnewyddadwy gyntaf y DU ar raddfa fawr, sy'n werth £10m (NaREC) yn cynnwys y cyfleusterau mwyaf i brofi ynni gwyrdd. Bydd y ganolfan yn helpu i brofi a datblygu technolegau ynni newydd ac adnewyddadwy, gan gynnwys tanciau tonnau/llanw a thyrbinau.
Bydd y ganolfan yn helpu'r Deyrnas Unedig i fodloni'r targedau sydd wedi'u pennu gan Brotocol Kyoto, a fydd yn galluogi'r Deyrnas Unedig i sicrhau cyfran fawr o fusnes ynni gwyrdd Ewrop sy'n werth $3bn y flwyddyn.