This snapshot, taken on 02/10/2009, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

We're creating a single website for everything to do with BIS but, while we do that, you'll find information in three places. > Find what you're looking for

 

Portreadau: Gwynt

North Hoyle Wind farm at sea

Fferm Wynt North Hoyle - Gogledd Cymru

Cafodd y gwaith adeiladu ar Fferm Wynt North Hoyle ei ddechrau ym mis Ebrill 2003. Dyma'r fferm wynt fawr gyntaf ar y môr yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi'i lleoli bum milltir oddi ar arfordir y Gogledd, rhwng y Rhyl a Phrestatyn. Mae yna 30 tyrbin gwynt, pob un â chyfraddiad o 2MW.

Dechreuodd y safle gynhyrchu trydan ym mis Tachwedd 2003. Pan fydd y safle'n gweithredu'n llawn, fe fydd yn diwallu anghenion tua 50,000 o gartrefi y flwyddyn. Bydd cynhyrchu cymaint o ynni â hyn drwy ddefnyddio'r gwynt yn gwneud yn iawn am ollwng rhyw 160,000 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn.

Cafodd safle North Hoyle ei ddewis am ei fod yn cynnig gwyntoedd da, môr cymharol dawel, gwely môr addas i adeiladu arno a dyfnder dwr o 12 metr ar gyfartaledd. Mae hefyd yn agos i gyfleusterau porthladd da ar gyfer y gwaith adeiladu.

Fferm Wynt Alltraeth North Hoyle, Gogledd Cymru: Ffoto © npower renewables 2005

Swaffham - Norfolk

Does dim rhaid cael ffermydd gwynt mawr bob tro: mae pwer y gwynt yn gallu gweithio'n llwyddiannus ar raddfa fach hefyd. Ym mis Awst 1999, cafodd tyrbin gwynt 1.5MW sy'n 65m o daldra ei godi ar gyrion tref fach Swaffham yn Norfolk.

Mae’r trydan sy’n cael ei gynhyrchu gan y tyrbin bob blwyddyn, sef 3GWh, yn rhoi tuag un rhan o dair o’r trydan sy’n cael ei ddefnyddio gan gartrefi Swaffham. Amcangyfrifir bod y tyrbin wedi creu digon o ynni yn ei bum mis cyntaf ar waith i dalu am yr ynni a gafodd ei ddefnyddio i’w adeiladu.

Mae'r tyrbin wedi bod mor llwyddiannus nes bod un arall wedi'i godi ym mis Gorffennaf 2003. Mae Swaffham II yn 85m o daldra ac mae ganddo gyfraddiad o 1.8MW. Mae'n cynhyrchu tua 4GWh o drydan y flwyddyn, ac ar y cyd â thyrbin Swaffham I, fe fydd yn ateb rhyw 70 y cant o anghenion cartrefi'r dref am drydan.

Fferm wynt Scroby - Great Yarmouth

Yn 2003-4, cafodd fferm wynt Scroby Sands ei chodi ym Môr y Gogledd, 2.5 km oddi ar arfordir Great Yarmouth yn Lloegr.

Y disgwyl yw y bydd y fferm wynt yn cynhyrchu 60MW o bwer ar gyfartaledd. Mae yna 30 tyrbin gwynt, pob un â thri llafn 40m sy'n troi o amgylch pwynt canol sydd rhyw 60m uwchlaw lefel gyfartalog y môr.