This snapshot, taken on 02/10/2009, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.
 

Portreadau: Trydan dwr

Elan Valley hydroelectric

Cwm Elan - Rhaeadr, Powys

Rhwng 1893 a 1904, cododd Cyngor Dinas Birmingham gyfres o argaeau yng Nghwm Elan er mwyn cael dwr glân a diogel i Birmingham.

Roedd poblogaeth Birmingham wedi cynyddu'n gyflym yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ac roedd dwr glân yn brin, felly cafwyd epidemigau o glefydau fel teiffoid a cholera.

Roedd y project yn golygu bod rhaid i ryw gant o bobl ymadael â'r cwm wrth i gartrefi, ffermydd, yr ysgol a'r eglwys gael eu dymchwel er mwyn i'r cronfeydd dwr gael eu creu. Cafodd y tirlun lleol ei newid yn llwyr gan y cronfeydd.

Cafodd Argaeau Cwm Elan eu hagor yn swyddogol gan y Brenin Edward VII a'r Frenhines Alexandra ar 21 Gorffennaf 1904.

Llun: Argae Penygarreg, Cwm Elan. Drwy Garedigrwydd Gwasanaeth Wardeiniaid Cefn Gwlad Cwm Elan a Gwasanaethau Gwe Headstart.

Gorsaf Bwer Dinorwig - Gwynedd

Dechreuodd Gorsaf Bwer Dinorwig gynhyrchu trydan ym 1984. Dyma'r cyfleuster pwmpio a storio mwyaf yn Ewrop ac mae ganddo'r gallu i greu 1728MW. Mae'r chwe thyrbin yn sefyll yn yr ogof fwyaf i gael ei chreu gan bobl yn Ewrop ac maen nhw'n gallu cyrraedd eu nerth llawn mewn 16 eiliad. Mae'r amser ymateb cyflym yn golygu bod trydan dwr yn adnodd eithriadol o hyblyg.

Gan ddefnyddio trydan y tu allan i'r oriau brig, gall y tyrbinau gael eu troi'n ôl i weithio fel pympiau i godi dwr o'r gronfa isaf yn ôl i'r gronfa uchaf.