This snapshot, taken on 02/10/2009, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

We're creating a single website for everything to do with BIS but, while we do that, you'll find information in three places. > Find what you're looking for

 

Portreadau: Hydrogen

System Celloedd Tanwydd Cyngor Bwrdeistref Woking - Surrey

System gwres a phwer cyfun (CHP) yw system celloedd tanwydd Cyngor Bwrdeistref Woking. Mae hyn yn golygu ei bod yn cynhyrchu trydan ac ynni gwres sy'n gallu cael ei ddefnyddio. Mae'r system ar waith ers Rhagfyr 2001 ac mae'n cyflenwi gwres a phwer i Barc Woking.

Mae'r gell danwydd yn y system yma'n defnyddio asid ffosfforig yn electrolyt, nwy naturiol wedi'i ailffurfio'n hydrogen yn danwydd ac ocsigen sydd wedi'i gymryd yn uniongyrchol o'r aer yn ocsidydd. Gall y gell danwydd roi 200kW o bwer trydanol. Bydd datblygiadau yn y dyfodol yn gweld y gell danwydd yn gweithio wrth ochr ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill fel pwer yr haul i greu mwy o allu.

Mae canolfan hamdden Parc Woking yn defnyddio celloedd tanwydd hydrogen i roi ei ynni: Ffoto drwy garedigrwydd Cyngor Bwrdeistref Woking.

Gorsaf celloedd tanwydd ar y gweill - Middlesbrough

Ym Middlehaven, cynllun ailddatblygu mawr yng nghanol Middlesbrough , bydd celloedd tanwydd datblygedig yn helpu i roi pwer i system gwres a phwer cyfun (CHP) datblygedig. Bydd yr uned bwer yn cyfrannu hyd at 2MW, a daw'r tanwydd hydrogen o ddiwydiant petro-gemegol mawr Middlesbrough .

Car Hy-Wire

Does gan Hy-wire General Motors ddim injan hylosgi mewnol, dim panel offer a dim pedalau i'r brêc neu'r sbardun - ond mae ganddo ddigon o bwer, o gell danwydd GM sy'n rhedeg ar hydrogen. Dyma'r cerbyd cyntaf yn y byd sy'n cyfuno cell danwydd hydrogen a thechnoleg gyrru â gwifren ac fe'i cyflwynwyd i'r cyhoedd yn Sioe Moduron Paris yn 2002. Mae holl systemau pwer a rheoli'r car wedi'u cynnwys mewn siasi 11 modfedd o drwch sydd yr un siâp â bwrdd sglefrio, gan gynyddu cymaint ag y gellir ar y lle yn y cerbyd i'r pum teithiwr a'u bagiau.

Mae'r stac o gelloedd tanwydd yn creu 94kW o bwer. Mae gyrru â gwifren yn golygu bod y gyrrwr yn rheoli'r car yn electronig yn hytrach nag yn fecanyddol, drwy anfon signalau i'r uned bwer a'r brêc o golofn reoli syml.