
Mae Cynllun Gwres Geothermol Ardal Southampton yn rhoi cyflenwad o ddwr poeth i'r ddinas.
Ym 1981, cafodd ffynnon geothermol ei thwrio ar safle yng nghanol y ddinas nes cyrraedd dyfnder o ychydig dros 1800m. Yn agos i waelod y ffynnon, cafwyd bod haen o dywodfaen 200 miliwn o flynyddoedd oed yn dal dwr ar dymheredd o 70°C.
Roedd y tywodfaen yn hydraidd ac athraidd, a oedd yn golygu ei fod yn gweithredu fel sbwng anhyblyg enfawr, yn tynnu dwr i mewn o'r creigiau cyfagos wrth iddo gael ei godi gan yr orsaf bwer.
Mae'r dwr yn llawn halwynau wedi'u hydoddi. Am ei fod o dan wasgedd, mae'n codi heb gymorth nes ei fod o fewn 100m i'r wyneb. Mae pwmp wedi'i osod 650m o dan yr wyneb i godi'r dwr i'r wyneb er mwyn i'r ynni gwres ynddo gael ei ddefnyddio.
Ar yr wyneb, mae'r dwr poeth yn pasio drwy gyfnewidydd gwres lle mae'r ynni gwres yn cael ei drosglwyddo i ddwr glân, sydd wedyn yn cael ei bwmpio o amgylch rhwydwaith o bibellau tanddaear i nifer o adeiladu cyhoeddus o fewn 2km i'r ffynnon. Mae allbwn o 2MW o ynni thermol yn bosibl.
Mae Canolfan Ddinesig Southampton yn defnyddio gwres o ffynnon geothermal: ffoto drwy garedigrwydd Cyngor Dinas Southampton