
Cafodd gorsaf bwer Fibrowatt yn Thetford, Norfolk, sy'n cael ei thanio â sarn dofednod, ei hagor ym 1998. Dyma'r drydedd orsaf o'r math yma i gael ei hagor yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r fwyaf hefyd, gyda'r gallu i greu 38.5MW o allbwn.
Mae'r orsaf yn gweithio drwy hylosgi rhyw 400,000 tunnell o sarn dofednod y flwyddyn. Mae'r sarn yn gymysgedd o faw ieir a defnyddiau fel gwellt neu naddion coed.
Yn nodweddiadol, mae gan y sarn gynnwys ynni o ryw 9 i 15MJ am bob cilogram. Mae'r ynni yma'n cael ei ddefnyddio i droi dwr yn stêm, sy'n troi tyrbin a generadur i gynhyrchu trydan.
Treuliwr anerobig yw gorsaf Holsworthy Biogas. Treulio anerobig yw'r broses lle mae mater organig yn cael ei dorri i lawr gan facteria pan nad oes aer ar gael.
Mae'r mater organig yn cael ei osod mewn treuliwr (cynhwysydd cynnes sydd wedi'i selio i gadw'r aer allan) am 10-25 diwrnod. Mae'r defnyddiau'n eplesu ac yn creu nwy methan a solet o'r enw digestate .
Mae'r nwy'n cael ei lanhau a gall gael ei ddefnyddio wedyn mewn ffwrnais, injan nwy neu dyrbin. Mae'r digestate yn cael ei ddychwelyd i'r ffermydd i'w ddefnyddio fel gwrtaith.
Mae Holsworthy Biogas yn prosesu 146,000 tunnell o dail gwartheg, moch a dofednod a gwastraff bwyd organig y flwyddyn. Mae'r tail yn cael ei gasglu o 30 o ffermydd lleol sydd i gyd o fewn 10 cilometr i'r orsaf. Mae gan yr orsaf allbwn o 2.1MW.
Y bwriad yw y bydd unrhyw wres gormodol a fydd yn cael ei greu gan yr orsaf yn cael ei ddefnyddio i gynhesu'r ysbyty, yr ysgolion ac adeiladau eraill yn Holsworthy.
Mae gwaith trin carthion Minworth, yn ymyl Birmingham, yn gwbl hunangynhaliol o ran trydan, ac mae'n allforio'r gormodedd, sef 12 y cant, i'r Grid Cenedlaethol. Mae'r gwaith yn gwasanaethu 1.3 miliwn o bobl.
Mae system fio-ynni Minworth yn defnyddio treuliad anerobig i broses mwy na 4,000 litr o laid y dydd, gan gynhyrchu 75,000 metr ciwbig o nwy carthion, sef methan yn bennaf.
Mae'r methan yn cael ei gywasgu a'i anfon mewn pibellau i orsaf gwres a phwer cyfun (CHP) i gael ei losgi mewn pum injan nwy. Gall pob injan gynhyrchu 1.5MW o drydan.
Injan mewn CHP yw'r system ddelfrydol ar gyfer gorsaf fio. Mae CHP yn llosgi bio-nwy i gynhyrchu trydan a gwres, a bydd rhywfaint o'r gwres yn cael ei ailddefnyddio yn y broses trin carthion.

Diagram drwy garedigrwydd Greenfinch Ltd
Mae'r bio-wastraff yn y broses yma'n cynnwys bwyd, llysiau gwastraff, olew coginio ac esgyrn.
Mae'r cartref cyffredin yn cynhyrchu 4.2kg o wastraff o'r gegin bob wythnos. Mae'r driniaeth ymlaen llaw yn cynnwys pasteureiddio (triniaeth â gwres), a llarpio'r gwastraff i greu pelenni.